Jobyn - Swyddi lleol Cymru Postio swydd

👉 Llogi?

Defnyddir gan

Logo Llywodraeth Cymru Logo Ombwdsmon Cymru Logo Nant Gwrtheyrn Logo menter a busnes Logo Cadwyn Clwyd Logo Ynni Llŷn Logo Ynni Llŷn

Uwch Gynghorydd Polisi - Y Gymraeg

Awdurdod Ystadegau'r Deyrnas Unedig

💰 £37k 📍 Hyblyg📍 O gartref +1 Ar gau

Mae Awdurdod Ystadegau'r Deyrnas Unedig yn edrych am Uwch Gynghorydd Polisi - Y Gymraeg

Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.

Ydych chi'n angerddol ynglŷn â’r Gymraeg? Hoffech chi roi gwell gwybodaeth i bobl Cymru am y materion economaidd a chymdeithasol sy'n effeithio arnyn nhw? Hoffech chi wella llais y rhai sy’n siarad Cymraeg er mwyn llywio polisi'r Llywodraeth yn well? Os felly, mae'r rôl hon yn cynnig cyfle newydd a chyffrous i sefydlu swyddogaeth Gymraeg gryfach yn y Swyddfa Ystadegau Gwladol; cydlynu a hybu gweithgareddau Cymraeg, ac adeiladu cymuned o siaradwyr a dysgwyr Cymraeg.

Beth fydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn ei wneud?

Mae Awdurdod Ystadegau'r Deyrnas Unedig yn gorff annibynnol hyd braich oddi wrth y Llywodraeth, a’i amcan yw hybu a diogelu'r gwaith o gynhyrchu a chyhoeddi ystadegau er lles y cyhoedd. Mae'r Awdurdod yn goruchwylio gwaith y Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG), Gwasanaeth Ystadegol y Llywodraeth (GSS), a'r Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau (SRY). Mae'r Awdurdod yn adrodd yn uniongyrchol i Senedd y Deyrnas Unedig, Senedd yr Alban, Senedd Cymru, a Chynulliad Gogledd Iwerddon.

Mae'r rôl hon o fewn yr Ysgrifenyddiaeth Polisi Ganolog, sydd wrth wraidd system ystadegol y Deyrnas Unedig ac sy'n adrodd yn uniongyrchol i'r Ystadegydd Gwladol. Rydym yn ymgymryd ag ystod eang o waith gan gynnwys cefnogaeth ar y lefel uchaf i Fwrdd yr Awdurdod, Cadeirydd yr Awdurdod a'r Ystadegydd Gwladol; a goruchwylio’r adrannau materion cyfreithiol a rhyngwladol, datblygu rhyngwladol, a’r adrannau polisi a seneddol. Mae'r amgylchedd yn gyflym ac yn heriol; serch hynny, yn gyfnewid am hyn, rydym yn cynnig amgylchedd tîm croesawgar a chefnogol lle bydd croeso bob amser i'ch syniadau am sut y gallem wneud pethau'n well, a lle mae digon o gyfleoedd ichi ddysgu a datblygu eich sgiliau chi’ch hun.

Mae gennyn ni fodel gweithio Hybrid ar waith. Mae hyn yn golygu ein bod yn cynnig mwy o hyblygrwydd o ran ble a phryd rydym yn gweithio. Bydd y rôl hon wedi'i lleoli yn ein prif swyddfa yng Nghasnewydd.

Cyfrifoldebau

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gyfrifol am y canlynol:

·   Sbarduno trawsnewid yn y Gymraeg ar draws y swyddfa, gan ddylanwadu'n effeithiol ar y rhanddeiliaid a defnyddio ystod eang o ddulliau.

·   Adolygu Cynllun Iaith Gymraeg presennol yr SYG gyda'r nod o foderneiddio a darparu ffocws clir o fewn yr SYG, gan gydlynu'r broses weithredu ar draws y busnes.

·   Cynnal archwiliad o allu staff yr Awdurdod, yr SYG a’r SRY yn y Gymraeg i ddeall y sefyllfa bresennol a datblygu dull o ddiwallu anghenion y dyfodol.

·   Datblygu ac arwain rhwydwaith ffurfiol a chymuned ehangach o siaradwyr a dysgwyr Cymraeg yn yr SYG, gan gynnal digwyddiadau hyrwyddo cysylltiedig, gan gefnogi twf y Gymraeg.

·   Sefydlu a rhedeg rhwydwaith traws-sefydliad o dimau’r SYG sy'n ymgymryd â gweithgareddau Cymraeg, gan gynnwys arbenigwyr allanol gyda'r nod o rannu a hybu’r arferion gorau yn yr SYG.

·   Darparu a rheoli pob agwedd ar gyfieithiadau Cymraeg, gan gynnwys caffael gwasanaeth yn effeithiol er mwyn sicrhau bod y gwaith yn uchel ei safon ac yn brydlon. 

·   Sefydlu a rheoli tîm bach i gyflawni'r uchod.

Byddwch yn gweithio mewn partneriaeth â gweddill yr is-adran, gan ddefnyddio'r arbenigedd sydd ar gael mewn strategaeth, llywodraethu, y gyfraith a busnes y Senedd i ategu’ch arbenigedd chi’ch hun.

Manyleb Person

1.  Yn meddu ar hanes llwyddiannus o ddatblygu, gweithredu a gwerthuso polisi; a dealltwriaeth gadarn o'r prosesau sy'n arwain at gyflawni canlyniadau llwyddiannus yn y naill gyd-destun neu'r llall.

2.  Yn gallu ymgysylltu'n llwyddiannus â nifer fawr o randdeiliaid, gan gynnwys cydweithwyr uwch, a meithrin cydberthnasau gwaith yn effeithiol ar draws y sefydliad.

3.  Yn meddu ar sgiliau trefnu rhagorol gyda'r gallu i gydlynu ffrydiau gwaith, monitro ac adrodd ar gynnydd, a datrys materion i sicrhau bod gweithgareddau'n cael eu cwblhau'n brydlon ac i safon uchel.

4.  Yn gallu cyfathrebu'n effeithiol ac yn effeithlon er mwyn sicrhau'r ddealltwriaeth a'r effaith fwyaf posibl.

5.  Yn gallu darllen ac ysgrifennu Cymraeg i safon dda (er enghraifft, Lefel Uwch y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol, lefel B2 y Fframwaith Cyfeirio Ewropeaidd Cyffredin ar gyfer Ieithoedd, neu lefel 3 Cymdeithas y Profwyr Iaith yn Ewrop) ac yn gallu sicrhau ansawdd cyfieithiadau allanol a darparu cyfieithiadau byr fel rhan o'r cyfrifoldebau swydd uchod.

Cyflog

💰 £36,838

Lleoliad

📍 Hyblyg, O gartref, Casnewydd

Dyddiad cau

👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!

Cyfatebol

💰 Yn ôl profiad Ar gau

Prifysgol Bangor

💰 £23k - £26k 📍 Bangor Ar gau

Mudiad Meithrin

💰 £19k 📍 De Ddwyrain Ar gau

Gwasanaeth Cynnal Gofalwyr

💰 £21k - £24k pro rata 📍 Bodelwyddan Ar gau

Gwasanaeth Cynnal Gofalwyr

💰 £21k - £24k pro rata 📍 Bangor Ar gau

Cyngor Gwynedd

💰 £70k - £81k 📍 Bangor Ar gau

Parc Cenedlaethol Eryri

💰 £20k - £21k 📍 Dolgellau Ar gau

Urdd Gobaith Cymru

💰 £22k - £25k 📍 Hyblyg📍 Sir y Fflint +2 Ar gau

Adra

💰 £29k - £31k 📍 Gogledd Cymru Ar gau

Adra

💰 £31k - £34k 📍 Gogledd Cymru Ar gau

Adra

💰 adrataicyf 📍 Caernarfon Ar gau

Stonewall Cymru

💰 £14k 📍 Caerdydd Ar gau

Stonewall Cymru

💰 £27k 📍 Caerdydd Ar gau

Parc Cenedlaethol Eryri

💰 £26k - £30k 📍 Penrhyndeudraeth Ar gau

Parc Cenedlaethol Eryri

💰 £21k 📍 Y Bala Ar gau

Prifysgol Bangor

💰 £34k - £41k 📍 Aberystwyth Ar gau

Iechyd Cyhoeddus Cymru

💰 £40k - £46k pro rata 📍 Bangor Ar gau

Four Cymru

💰 I'w drafod 📍 Aberystwyth📍 Caerdydd Ar gau

CBAC

💰 £25k - £27k pro rata 📍 Caerdydd Ar gau

Menter Môn

💰 £44k - £50k 📍 Ynys Môn Ar gau

Mudiad Meithrin

💰 £21k - £25k 📍 Aberystwyth Ar gau

Cymwysterau Cymru

💰 £51k - £61k 📍 Casnewydd Ar gau

Coleg Cymraeg Cenedlaethol

💰 Honorariwm 📍 Hyblyg Ar gau

Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg

💰 £32k - £39k 📍 Pontypridd Ar gau