Jobyn - Swyddi lleol Cymru Postio swydd

👉 Llogi?

Defnyddir gan

Logo Llywodraeth Cymru Logo Ombwdsmon Cymru Logo Nant Gwrtheyrn Logo menter a busnes Logo Cadwyn Clwyd Logo Ynni Llŷn Logo Ynni Llŷn

Cynorthwyydd TG (x2 swydd)

Menter a Busnes

💰 £20,919 - £22,367 📍 Hybrid📍 Unrhyw un o’n swyddfeydd Ar gau

Mae Menter a Busnes yn edrych am Gynorthwyydd TG (x2 swydd)

Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.

Menter a Busnes yw’r prif gwmni datblygu economaidd yng Nghymru. Rydym yn gwmni annibynnol, nid er elw, sy’n arwain y ffordd yn darparu rhaglenni a gwasanaethau cymorth busnes ar ran Llywodraeth Cymru a sefydliadau cenedlaethol a rhanbarthol eraill. Rydym hefyd yn gweithio gyda chleientiaid masnachol i gynllunio a darparu gwasanaethau mewn meysydd megis cymorth busnes, entrepreneuriaeth ac arloesedd i ddatblygu a thyfu busnesau. 

Yn unol â'n gwerthoedd, ym Menter a Busnes ein nod yw creu amgylchedd gwaith cyfeillgar sy'n onest, yn gyfrifol ac yn iach, ac sy'n dangos y parch mwyaf at staff a chwsmeriaid. Rydym yn cymryd camau i ddatblygu gweithlu mwy amrywiol ac yn benodol yn annog ymgeiswyr o grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol, gan gynnwys pobl dduon a lleiafrifoedd ethnig (BAME), pobl anabl a phobl o'r gymuned LGBTQ+ o dan y rheolau gweithredu cadarnhaol fel yr amlinellir yn Neddf Cydraddoldeb 2010. Rydym yn dilyn egwyddorion cystadleuaeth agored a phenodir staff yn seiliedig ar eu rhinweddau.

Mae gennym dîm o 130 o staff ymroddgar sydd â dealltwriaeth eang o sawl sector a maes ym myd busnes a’n blaenoriaeth yw mynd y cam ychwanegol i ddarparu gwasanaethau o’r safon uchaf posibl. Er mwyn gwella bywyd gwaith ein staff, rydym yn annog arferion gweithio hyblyg sy'n cefnogi gwell cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith. Rydym hefyd yn cefnogi iechyd a lles ein staff drwy gynnig amrywiaeth o ymyriadau a gwasanaethau. 

Nod yr Adran Technoleg Gwybodaeth

Dyma gyfle cyffrous i ymuno â Menter a Busnes i gefnogi ein cynlluniau twf parhaus.

Mae'r tîm TG yn gyfrifol am:

·    reoli gweithrediad effeithiol ac effeithlon systemau technoleg y cwmni, gan ganolbwyntio'n benodol ar berfformiad dibynadwy, diogelwch, a datblygiad parhaus;

·    ddarparu gwasanaethau cymorth llawn o ansawdd uchel i staff

Nod y Swydd

Bydd y Cynorthwyydd TG yn cyd-weithio yn agos gyda chydweithwyr TG i ddarparu'r gwasanaeth TG, drwy gynnig cymorth technegol addas a dibynadwy i staff, gosod a gofalu am gyfarpar a chyfrifon, a chefnogi cyd-weithwyr TG efo gwaith cynnal.

** Prif Gyfrifoldebau**   ·    Gweithio'n agos gyda'r tîm TG i ddarparu gwasanaethau TG o ansawdd uchel

·    Darparu cymorth cynhwysfawr i staff o bell a/neu wyneb i wyneb, trwy ymateb yn broffesiynol i ymholiadau, eu datrys yn effeithiol ac effeithlon, a chynnig gwasanaeth cwsmer o safon

·    Bod yn bwynt cyswllt cyntaf i ymholiadau ar y ddesg gymorth, gan ddadansoddi, trefnu a blaenoriaethu ticedi yn addas, ac esgoli mewn da bryd ble fod angen

·    Cefnogi staff i fabwysiadu a defnyddio technoleg newydd, trefnu a/neu ddarparu hyfforddiant sylfaenol a throsglwyddo gwybodaeth yn ôl y gofyn

·    Gwaith cysylltiedig â newidiadau staffio, gan gynnwys: paratoi at aelodau'n cychwyn a gadael, rheoli mynediad i gyfrifon ac adnoddau, gosod a threfnu dosbarthu neu gasglu cyfarpar o fewn amserlen benodol, anwytho a hyfforddi staff newydd ar offer a systemau TG

·    Gofalu am holl asedion caledwedd TG drwy'r Cylchred Bywyd (caffael, gosod a ffurfweddu, dosbarthu, cynnal a datgomisiynu)

·    Cynnal offer a chyfleusterau TG swyddfeydd (megis argraffwyr, llungopiwyr, ffônau a chyfarpar fideo-gynadledda), a chadw holl offer a storfeydd TG yn daclus a threfnus

·    Perfformio gwaith cynnal sylfaenol rheolaidd, megis - Diweddaru systemau gweithredu, meddalwedd a chaledwedd; Monitro ac adolygu systemau craidd ac isadeiledd; Gweithredu copïau wrthgefn; Prosesu anfonebau a gwaith gweinyddol

·    Cydweithio'n agos â'r tîm TG yn ôl yr angen i gynorthwyo ar ddatrys digwyddiadau, a datblygiadau/prosiectau TG

·    Cadw holl gofnodion, dogfennaeth, a chronfeydd data TG yn daclus, cywir a chyfredol

·    Ymweld â swyddfeydd y cwmni yn ôl yr angen i gwblhau gwaith gosod, cynnal a datrys

·    Gweithio'n agos gyda'r tîm TG i ddiogelu data'r cwmni, gan weithio i leihau'r risg o golli data, dinistrio data’n ddamweiniol a dwyn data

·    Cynghori a chynorthwyo staff ar y dehongliad a gweithrediad cywir o bolisïau TG yn unol â deddfwriaeth a safonau perthnasol ac arfer da, ac adrodd ar achosion o doriad polisi

·    Cynorthwyo'r Rheolwr Gweithrediadau TG i sicrhau bod y cwmni'n llwyddo i gynnal safon Cyber Essentials Plus o fewn amserlenni penodol

**Arall **

·    Gweithio ar brosiectau eraill Grŵp Menter a busnes yn ôl y galw, gan gynnwys rhai masnachol

·    Sicrhau bod safonau ansawdd, gwasanaeth cwsmer, cydraddoldeb ac amrywiaeth, iechyd a diogelwch a bioddiogelwch y tîm TG yn cael eu bodloni

·    Derbyn dyletswyddau a chyfrifoldebau rhesymol eraill a chynrychioli Menter a Busnes yn ôl yr angen

Sgiliau a Phrofiad

Cymwysterau / Profiad

Hanfodol

Cymhwyster NVQ lefel 3 neu’n uwch, neu gyfatebol, a/neu brofiad dangosadwy mewn maes perthnasol

Profiad dangosadwy o osod, cynnal a chadw caledwedd a meddalwedd TG, a rhoi cymorth i eraill efo’u gofynion TG

Dymunol

Cymhwyster proffesiynol TG

Profiad dangosadwy o weithio a llwyddo mewn rôl TG

Profiad dangosadwy o ddarparu gwasanaeth cwsmer

Gwybodaeth / Sgiliau

Hanfodol

Gwybodaeth a sgiliau da efo nifer o’r canlynol:

   – Systemau Gweithredu: Windows, macOS, iOS, Android

   – Caledwedd: Cyfrifiaduron, ffônau symudol, tabledi, ategolion cyffredin, fideo-gynadledda, argraffyddion

   – Meddalwedd: Ebost a chynhyrchiant (Google Workspace, Microsoft Office), Rheoli Tasgau

Diddordeb cryf mewn technolegau modern ynghyd â thechnolegau sy’n datblygu

Ymwybyddiaeth o ddiogelwch ar-lein, diogelu data a GDPR

Nodweddion Personol

Hanfodol

Gallu dysgu ac addasu i systemau a thechnoleg newydd

Sgiliau rhyngbersonol a chyfathrebu clir, gyda’r gallu i ddefnyddio diplomyddiaeth wrth ddelio ag ymholiadau staff

Gallu ymchwilio a datrys problemau drwy edrych arnynt o wahanol gyfeiriadau, mynegi manteision, anfanteision a risgiau dewisiadau

Gallu ysgogi ei hun i weithio’n annibynnol ac fel aelod o dîm

Gweithredu gyda gofal, uniondeb a chyfrinachedd, yn enwedig efo mynediad breintiedig

Person trefnus, sy’n gallu addasu a chymell ei hun, ac yn gallu rheoli nifer o dasgau ar yr un pryd a gweithio dan bwysau i gwrdd â therfynau amser

Sgiliau cyflwyno clir a diddorol, gyda’r hyder i gyflwyno o flaen cynulleidfaoedd amrywiol, a’r gallu i esbonio materion technegol neu gymhleth mewn ffordd annhechnegol

Sgiliau cyfathrebu da ar lafar ac yn ysgrifenedig

Dymunol

Sgiliau dwyieithog (Cymraeg/Saesneg). (Croesawir ceisiadau gan ddysgwyr Cymraeg)   Arall

Hanfodol

Trwydded yrru lawn a char i’w ddefnyddio at ddibenion busnes

Gwneud Cais

Gallwch wneud cais am y swydd hon drwy lenwi ffurflen gais a ffurflen cyfle cyfartal (sydd ar gael ar ein gwefan www.menterabusnes.co.uk) a’u dychwelyd at [email protected].

Os hoffech gael trafodaeth anffurfiol am y swydd hon, cysylltwch ag Aled James, Rheolwr Technoleg Gwybodaeth, ar [email protected] i drefnu sgwrs. 

Cyfweliadau   Byddwn yn cynnal y cyfweliadau ar gyfer y swydd hon yn rhithiol ar naill ai dydd Mercher, 26 Hydref 2022 neu dydd Iau, 27 Hydref 2022. Os yw’r dyddiad hwn yn anghyfleus, nodwch hynny ar eich ffurflen gais os gwelwch yn dda. 

Dyddiad Cau

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw: 10 y bore, 17 Hydref, 2022 Polisi Cydraddoldeb ac Amrywiaeth 

Cyflog

💰 £20,919 - £22,367

Lleoliad

📍 Hybrid, Unrhyw un o’n swyddfeydd

Dyddiad cau

👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!

Sefydliad Dysgu a Gwaith

💰 £55,000 – £70,000 📍 Hyblyg📍 O gartref Ar gau

Prifysgol Bangor

💰 £53,353 - £61,82 📍 Bangor Ar gau

Partneriaeth Ogwen

💰 £25,000 📍 Bethesda Ar gau

Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant

💰 £32,348 - £36,386 📍 Campws Hyblyg Ar gau

Partneriaeth Ogwen

💰 £23,088 pro rata 📍 Bethesda Ar gau

Partneriaeth Ogwen

💰 £30,000 pro rata 📍 Bethesda Ar gau

Cyngor Celfyddydau Cymru

💰 Costau teithio a chynhaliaeth rhesymol 📍 Ar-lein Ar gau

Undeb Rygbi Cymru

💰 £30,000 – £35,000 📍 Caerdydd Ar gau

CFfI Cymru

💰 £40,000 - £45,000 📍 Llanelwedd📍 O gartref Ar gau

Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog

💰 £27,801 - £33,727 📍 Aberhonddu Ar gau

Cyngor Celfyddydau Cymru

💰 £30,142 📍 Caerfyrddin📍 Bae Colwyn +2 Ar gau

Cyngor Caerdydd

💰 £30,095 - £34,373 📍 Caerdydd📍 O gartref Ar gau

Coleg Gwent

💰 £23,337 - £25,311 📍 Caerffili Ar gau

Coleg Gwent

💰 £23,337 - £25,311 📍 Caerffili Ar gau

Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru

💰 £25,662 📍 Bangor Ar gau

Prifysgol Bangor

💰 £53,353 - £61,823 📍 Bangor Ar gau

Cyngor Sir Ddinbych

💰 £27,514 - £30,095 📍 O gartref📍 Hyblyg Ar gau

Cwmni Buddiannau Cymunedol

💰 £32,960 📍 Rhondda Ar gau

Cyngor Caerdydd

💰 £25,927 - £30,095 📍 Caerdydd Ar gau

Menter a Busnes

💰 £27,433 - £30,205 📍 Bangor📍 O gartref Ar gau

Iechyd Cyhoeddus Cymru

💰 £27,055 - £32,934 📍 Caerdydd Ar gau

Cyngor Sir Ynys Môn

💰 £30,095 - £33,486 📍 Ynys Môn Ar gau

Cyngor Sir Ynys Môn

💰 £20,043 - £21,269 📍 Ynys Môn Ar gau

Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (CCAUC)

💰 £26,038 - £30,908 📍 Caerffili Ar gau