Jobyn - Swyddi lleol Cymru Postio swydd

👉 Llogi?

Defnyddir gan

Logo Llywodraeth Cymru Logo Ombwdsmon Cymru Logo Nant Gwrtheyrn Logo menter a busnes Logo Cadwyn Clwyd Logo Ynni Llŷn Logo Ynni Llŷn

Pennaeth Gweithrediadau

Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru

💰 £40k 📍 Llanfair-ym-Muallt📍 Hyblyg +1 Ar gau

Mae Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru yn edrych am Bennaeth Gweithrediadau

Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.

Wedi’i sefydlu bron 120 o flynyddoedd yn ôl, ond gydag agwedd sy’n gadarn o gyfoes, mae Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru yn llenwi lle unigryw yn nhirwedd wledig a diwylliannol Cymru. Fel elusen gofrestredig, ein nod craidd yw hyrwyddo amaethyddiaeth gynaliadwy, garddwriaeth, coedwigaeth, cadwraeth a’r amgylchedd yng Nghymru. Rydym yn cyflawni’r amcanion hyn trwy gynnal tri digwyddiad mawr bob blwyddyn, ochr yn ochr â nifer o wobrau, bwrsarïau ac ysgoloriaethau.

Yn ychwanegol at ein digwyddiadau ein hun, rydym yn croesawu nifer o ddigwyddiadau trydydd parti ar ein maes sioe 150 erw, sy’n cynhyrchu incwm allweddol i fod yn sail i’n gwaith elusennol. 

Gan edrych ymlaen bydd angen i’r Gymdeithas, fel pob sefydliad, ddatblygu i barhau’n berthnasol. Mae gennym nifer o brosiectau cyffrous yn yr arfaeth ac ymgyrch i gofleidio newid a thyfu llwyddiant ein digwyddiadau. 

Felly, mae Pennaeth Gweithrediadau yn aelod allweddol o Uwch Dîm Arwain y Gymdeithas, gan adrodd yn uniongyrchol i’r Prif Weithredwr, a gweithio’n agos â Chyfarwyddwyr Digwyddiadau Anrhydeddus y Gymdeithas, Bwrdd yr Ymddiriedolwyr, Cadeiryddion a Phwyllgorau. 

Cyfrifoldebau Allweddol

Bydd gan Bennaeth Gweithrediadau gyfrifoldeb am gynllunio, cydlynu, a chyflawni holl agweddau gweithredol ein digwyddiadau mewnol, yn cynnwys:

·   paratoi Cynlluniau Rheoli Digwyddiadau,

·   caffael a rheoli contractau gwasanaethau allweddol a hurio yn cynnwys diogeledd, rheoli traffig, parcio, giatiau a mynedfeydd, pebyll, glanhau, rheoli gwastraff, cyfathrebu a system sain ayb.

·   arolygu’r holl gystadlaethau da byw a goruchwylio’r Adran Dda Byw,

·   arolygu a goruchwylio’r Adran Stondinau Masnach, 

·   diogelwch digwyddiadau a chyswllt â’n Cynghorydd Iechyd a Diogelwch,

·   trwyddedu a chydymffurfiaeth,

·   cynllunio at argyfyngau, 

·   rheolaeth llinell staff a gweithio’n agos â gwirfoddolwyr, aelodau, pwyllgorau a grwpiau rhanddeiliaid allweddol. 

Tîm bychan ydym a bydd yna orchwylion sy’n disgyn y tu allan i’r cyfrifoldebau allweddol uchod. Felly, bydd angen ichi fod yn hyblyg ac yn barod i addasu yn ôl y gofynion.

Pennaeth Gweithrediadau yw’r swyddog arweiniol sy’n gyfrifol am ddarparu’r Ffair Aeaf hefyd. 

Mae hon yn swydd gyffrous ac rydym yn chwilio am rywun i ymuno â’r tîm am y tymor hir a’r bwriad yw y bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn tyfu ac yn datblygu gyda ni ac y bydd yn rhan ganolog o’r Gymdeithas a’i dyfodol.

Ynglŷn â Chi

Mae’r priodoleddau canlynol yn rhinweddau pwysig ar gyfer y swydd. Sylweddolir efallai na fydd un ymgeisydd yn meddu arnynt i gyd. Serch hynny, defnyddiwch eich cais i ddangos sut y gall eich profiad, eich sgiliau a’ch gwybodaeth gwrdd â gofynion cyflawni’r swydd hon. 

Profiad

·    Hanes o lwyddiant blaenorol yn rheoli digwyddiadau.

·    Profiad o weithrediadau y gellir ei ddangos.

·    Rheoli contractau a chyflenwyr.

·    Gwybodaeth am iechyd a diogelwch a rheoli risg.

·    Cynhyrchu, rheoli a gwerthuso cyllidebau.

·    Rheoli staff a gweithio fel tîm. 

Sgiliau a gwybodaeth 

·    Llythrennedd TG rhagorol

·    Yn dra threfnus. 

·    Sgiliau cyfathrebu rhagorol. 

·    Sgiliau rheoli amser rhagorol, gallu i flaenoriaethu, gweithio dan bwysau ac amldasgio.

·    Sgiliau cyflwyno rhagorol yn Saesneg (hanfodol) a Chymraeg (dymunol) – ar lafar ac yn ysgrifenedig.*

·    Menter a chreadigrwydd. 

·    Sylw astud i fanylion. 

·    Ymarweddiad cyfeillgar, agos-atoch a hyderus. 

I drafod y swydd yn anffurfiol, anogir ymgeiswyr i gysylltu â’r Prif Weithredwr, Aled Rhys Jones ([email protected]).

I wneud cais am y swydd hon, anfonwch CV a llythyr eglurhaol at Caron W Evans, Pennaeth Gweinyddiaeth ([email protected]).

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 12 canol dydd ar 3 Ionawr 2023.

Byddir yn cynnal cyfweliadau yn ystod yr wythnos yn dechrau 16 Ionawr 2023.  

Gweler manylion y pecyn buddion a’r telerau cyflogaeth cyffredinol yn y ddogfen ategol.

* Ystyrir sgiliau yn y Gymraeg yn gaffaeliad i’r sefydliad. Rydym yn annog ac yn cefnogi staff i ddysgu, datblygu a defnyddio eu sgiliau yn y Gymraeg yn y gweithle. 

Cyflog

💰 Tua £40,000

Lleoliad

📍 Llanfair-ym-Muallt, Hyblyg, Hybrid

Dyddiad cau

👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!

Ysgol Cae'r Felin, Cyngor Sir Caerfyrddin

💰 £53,646 - £62,237 📍 Pencader Ar gau

Y Brifysgol Agored yng Nghymru

💰 £21,630 - £23,71 📍 Caerdydd Ar gau

Urdd Gobaith Cymru

💰 £42,828 - £47,483 📍 Pentre Ifan Ar gau

Galeri Caernarfon

💰 £60,000 📍 Caernarfon Ar gau

Urdd Gobaith Cymru

💰 £37, 519 - £42,404 📍 Caerdydd Ar gau

Urdd Gobaith Cymru

💰 £10,840 y flwyddyn / £5.96 yr awr 📍 Llangrannog Ar gau

GwE

💰 £25,419 - £27,514 📍 Caernarfon📍 Bae Colwyn +1 Ar gau

Esgobaeth Tyddewi

💰 £27,126 - £29,942 📍 Abergwili Ar gau

Rhieni Dros Addysg Gymraeg

💰 £28,000-£30,000 📍 O gartref📍 Unrhyw un o’n swyddfeydd Ar gau

Cyngor Caerdydd

💰 £30,095 - £34,373 📍 Caerdydd Ar gau

ITV Cymru Wales

💰 Yn ôl profiad 📍 Caerdydd Ar gau

Undeb Amaethwyr Cymru

💰 £40,000 pro rata 📍 Aberystwyth Ar gau

Uchelgais Gogledd Cymru

💰 £28,226 - £30,095 📍 Cyffordd Llandudno Ar gau

Prifysgol Bangor

💰 £24.78 yr awr 📍 Amrywiol Ar gau

Clybiau Plant Cymru Kids' Clubs

💰 £27,741 - £28,226 📍 Bae Colwyn📍 Caerdydd +2 Ar gau

RSPB Cymru

💰 £52,000 - £57,688 📍 Hybrid Ar gau

Cyngor Cymuned Llandwrog

💰 £27,514 pro rata 📍 Llandwrog Ar gau

Galeri Caernarfon

💰 £60,000 📍 Caernarfon Ar gau

Llyfrgell Genedlaethol Cymru

💰 £43,445 - £56,869 📍 Aberystwyth Ar gau

Llyfrgell Genedlaethol Cymru

💰 £24,899 - £28,740 📍 Aberystwyth Ar gau

Llyfrgell Genedlaethol Cymru

💰 £24,899 - £28,740 📍 Aberystwyth Ar gau

Llyfrgell Genedlaethol Cymru

💰 £22,223 - £23,202 📍 Aberystwyth Ar gau

Cyngor Llyfrau Cymru

💰 £26,975 – £31,985 📍 Aberystwyth📍 O gartref Ar gau

Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant

💰 £37,474 - £43,414 📍 Campws Caerfyrddin📍 O gartref Ar gau