Jobyn - Swyddi lleol Cymru Postio swydd

👉 Llogi?

Defnyddir gan

Logo Llywodraeth Cymru Logo Ombwdsmon Cymru Logo Nant Gwrtheyrn Logo menter a busnes Logo Cadwyn Clwyd Logo Ynni Llŷn Logo Ynni Llŷn

Cynorthwy-ydd Gweinyddol - Cyfleusterau

💰 £21k - £23k 📍 Caerdydd Ar gau

Mae Ysgol Busnes Caerdydd, Prifysgol Caerdydd yn edrych am Gynorthwy-ydd Gweinyddol - Cyfleusterau

Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.

Dewch i ymuno â thîm gwasanaethau proffesiynol gwych yn ysgol fusnes gynta’r byd ynghylch gwerth cyhoeddus!

Mae cyfle cyffrous wedi codi i weithio yn Ysgol Busnes Caerdydd. Rydym yn chwilio am rywun i ymuno â'n tîm cyfleusterau proffesiynol, colegol, amrywiol a chroesawgar i ddarparu cymorth gweinyddol i gefnogi'r amrywiaeth eang o wasanaethau'r tîm, gan roi pwyslais penodol ar weithgareddau amgylcheddol ac ymgysylltu â’r gymuned. 

Mae'r tîm hwn yn darparu gwasanaethau blaen tŷ a derbynfa, archebu ystafelloedd, reprograffeg, postio a phorthora yn ogystal â bod yn gyfrifol am gynorthwyo gyda rheoli a gwella mannau dysgu ac addysgu, swyddfeydd a mannau cymunedol yr Ysgol. Mae'r tîm hefyd yn gyfrifol am fframweithiau a systemau Diogelwch, Iechyd, yr Amgylchedd a Lles yr Ysgol ac yn bwysig mae'n rhan annatod o agenda cynaladwyedd yr Ysgol, gan arwain ar ehangu a chefnogi ein mentrau a'n datblygiadau amgylcheddol.

Bydd yr oriau gwaith yn seiliedig ar batrwm shifft wythnosol o ddydd Llun i ddydd Gwener a drefnir ymlaen llaw, er mwyn cynnig gwasanaeth derbynfa rhwng 8.00am a 6.00pm, ond bydd angen hyblygrwydd er mwyn cyflenwi ar gyfer gwyliau blynyddol, absenoldebau, a digwyddiadau ad hoc/cynadleddau. Bydd hyn weithiau'n golygu y bydd angen gweithio oriau ychwanegol neu anarferol, a allai gynnwys penwythnosau, er mwyn bodloni gofynion y gwasanaeth.

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn unigolyn creadigol, hyblyg, brwdfrydig a chyfrifol. Bydd yn meddu ar sgiliau gwasanaeth cwsmeriaid rhagorol a gyflwynir yn Gymraeg a Saesneg, neu'n barod i gwblhau hyfforddiant iaith Gymraeg. 

Mae llawer o bobl o’r farn bod Ysgol Busnes Caerdydd yn un o ysgolion busnes a rheoli gorau’r deyrnas ac, yn ôl Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil 2014, roedd yn chweched yn eu plith am safon ei hymchwil. Rydyn ni’n addysgu dros 3,500 o fyfyrwyr bob blwyddyn, gan gynnwys dros 1,500 o fyfyrwyr rhyngwladol. Mae gan Ysgol Busnes Caerdydd gyfadran ryngwladol ac ynddi ysgolheigion o’r radd flaenaf. Mae enw da’r ysgol wedi’i helpu i’w denu o sawl rhan o’r deyrnas a’r tu hwnt. Ysgol Busnes Caerdydd yw’r sefydliad cyntaf o’i fath yn y byd sy’n hybu gwerth cyhoeddus, gan ymrwymo i hwyluso gwerth cymdeithasol ac economaidd fel ei gilydd trwy gynnal ymchwil arloesol aml ei meysydd i anawsterau mwyaf cymunedau, cwmnïau a sefydliadau.

Swydd amser llawn (35 awr yr wythnos) yw hon, a hysbysebir ar sail benagored.

Cyflog: £21,197 - £23,144 y flwyddyn (Gradd 3).

Dyddiad Cau: Dydd Sul, 19 Chwefror 2023

Mae Prifysgol Caerdydd wedi ymrwymo i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth a chreu amgylchedd gwaith cynhwysol. Credwn y gallwn wneud hyn drwy ddenu, datblygu a chadw ystod amrywiol o staff o wahanol gefndiroedd sydd am greu Prifysgol sy'n ceisio cyflawni ein rhwymedigaeth gymdeithasol, ddiwylliannol ac economaidd i Gaerdydd, Cymru, a'r byd. Wrth gefnogi ein gweithwyr i gael cydbwysedd rhwng eu gwaith a'u bywydau personol, byddwn hefyd yn ystyried cynigion i rannu swyddi neu weithio'n hyblyg.

Disgrifiad Swydd

Dyletswyddau a Chyfrifoldebau

O fewn y Tîm Cyfleusterau, bydd y Cynorthwyydd Gweinyddol yn: 

•  Darparu cymorth gweinyddol ansawdd uchel i'r Ysgol Busnes, gan ymgymryd ag ystod o dasgau gwasanaeth arferol a'u cwblhau i fodloni gofynion gweithredol a gwasanaeth a boddhad cwsmeriaid, ac arwain ar reoli meysydd cyfrifoldeb penodol yn yr Ysgol.

•  Rhoi cefnogaeth ac arweiniad ar yr ystod lawn o wasanaethau a ddarperir gan y Tîm.

•  Sicrhau bod y Tîm yn cael cefnogaeth a bod dyletswyddau Allweddol, Penodol a Chyffredinol y rôl yn cael eu cyflawni'n broffesiynol.

Dyletswyddau Allweddol

•  Delio ag ystod eang o ymholiadau wyneb yn wyneb, ebost a ffôn oddi wrth gwsmeriaid mewnol ac allanol, gan gynnwys staff, myfyrwyr ac ymwelwyr allanol, mewn modd amserol, cyfeillgar a phroffesiynol, gan nodi eu gofynion ac addasu ymatebion safonol yn unol â hynny, a mynd ati’n effeithlon ac yn effeithiol i nodi neu gyfeirio ystyriaethau at reolwyr neu dimau eraill yn yr Ysgol neu Brifysgol.

•  Cydweithio ag eraill o fewn a thu allan i'r Tîm, yr Ysgol a'r Brifysgol ehangach, gan gynnwys arweinwyr academaidd perthnasol yn yr Ysgol, er mwyn gwneud argymhellion ar gyfer datblygu prosesau a gweithdrefnau sefydledig a gweithgareddau a mentrau cynaladwyedd. 

•  Sefydlu perthnasoedd gwaith gyda chysylltiadau allweddol, yn fewnol ac yn allanol, i helpu i wella lefelau gwasanaeth ac ymchwilio i dechnolegau newydd ac ymarfer a phrosesau nodedig o'r tu allan i'r Ysgol. 

•  Ymgymryd ag amrywiaeth o ddyletswyddau gweinyddol i gefnogi'r tîm a'r Ysgol Busnes. 

•  Casglu a dadansoddi data er mwyn diweddaru systemau gweinyddol â gwybodaeth gywir, ac adnabod tueddiadau a phatrymau sylfaenol mewn unrhyw ddata a gyflwynir a gweithredu unrhyw ymatebion safonol, gan gyfeirio unrhyw faterion ansafonol ymlaen fel bo'r gofyn. 

•  Cyfrannu at lwyddiant y tîm, arwain eraill drwy esiampl a helpu i oruchwylio a rheoli’r Tîm. 

Dyletswyddau Penodol

•  Bydd Cynorthwywyr Gweinyddol unigol yn y Tîm yn ymgymryd â phob un o'r Dyletswyddau Penodol isod, a’u cefnogi, ond gofynnir iddynt arwain, yn weithredol ac yn ddatblygiadol, ar ran y Tîm ar un ohonynt, neu ar nifer ohonynt.

•  Darparu gwasanaeth derbynfa cyfeillgar hynod broffesiynol, wedi'i gyflwyno'n dda, gan weithredu fel pwynt cyswllt cychwynnol ar gyfer ystod eang o gwsmeriaid mewnol ac allanol a darparu gofal cwsmer o'r safonau uchaf wrth gyfarfod, cyfarch a chyfarwyddo cwsmeriaid ac ymwelwyr.

•  Hwyluso system mynediad diogelwch y wefan, agor a chau’r adeiladau ar sail patrwm shifft, gan gysylltu'n uniongyrchol â Diogelwch i sicrhau bod y gwasanaeth yn rhedeg yn llyfn.

•  Hysbysu am ddiffygion cynnal a chadw a'u cofnodi, a chofnodi tasgau neu waith angenrheidiol gydag Ystadau'r Brifysgol, a, gan ddefnyddio Porth Cyfleusterau Cymorth yr Ysgol, monitro ac olrhain hynt y gwaith a darparu adborth rhagweithiol i randdeiliaid mewnol, gan gyfeirio unrhyw bryderon o ran cynnydd at reolwyr yr Ysgol.

•  Cynnal deunydd ysgrifennu, reprograffeg, cyfleusterau a chyflenwadau traul AV staff yr Ysgol, archebu stoc, cysylltu â rhanddeiliaid i sicrhau bod y stoc mwyaf priodol ar gael, gan gynnwys bodloni ystyriaethau cynaladwyedd, a monitro gwariant yn erbyn y gyllideb.

•  Cyflawni dyletswyddau porthora ysgafn, oddi mewn a rhwng adeiladau'r Brifysgol.

Parhaodd y Disgrifiad Swydd mewn Gwybodaeth Ychwanegol

Manyleb Unigolyn

Meini Prawf Hanfodol

1.  NVQ 2/TGAU A-C neu gymwysterau neu brofiad gwaith cyfatebol.

2.  Profiad helaeth o weithio mewn gweithle gweinyddol neu swyddfa.

3.  Gallu diamheuol i ddefnyddio pecynnau TG swyddfa cyffredin (e.e. MS Office).

4.  Gallu diamheuol i sefydlu systemau a gweithdrefnau gweinyddol safonol.

5.  Gallu a brofwyd i gyfathrebu'n effeithiol ac yn broffesiynol gydag amrywiaeth eang o bobl, mewn dulliau ysgrifenedig a llafar ac yn Gymraeg a Saesneg, neu fodlonrwydd i ddysgu.

6.  Gallu a brofwyd i weithio fel aelod effeithiol o’r tîm, a rhoi cyngor ac arweiniad i aelodau eraill y tîm yn ôl yr angen.

7.  Ymrwymiad cryf, â thystiolaeth, i wasanaeth cwsmeriaid.

8.  Gallu amlwg i ymdopi â cheisiadau estynedig am wybodaeth neu wasanaeth, a datrys problemau cwsmeriaid lle bo'n briodol.

9.  Tystiolaeth o allu i gynllunio, blaenoriaethu a threfnu eich gwaith eich hun o fewn amserlenni y cytunir arnynt.

10.  Gallu pendant i gymryd y cam cyntaf wrth ddatrys problemau ac ymateb i ymholiadau, gan gydymffurfio â gweithdrefnau ac arferion safonol.

Meini Prawf Dymunol

1.  Profiad o ddarparu gwasanaethau cyfleusterau, a thechnolegau a systemau cyfleusterau cysylltiedig, mewn amgylchedd swyddfa a/neu addysgol.

2.  Profiad o weithredu systemau a fframweithiau SHEW.   Gwybodaeth Ychwanegol

Disgrifiad Swydd – parhad

Dyletswyddau Penodol

•  Cefnogi pwyllgorau a chyfarfodydd perthnasol, gan gynnwys paratoi agendâu a phapurau, cymryd cofnodion a monitro a dwysáu gweithredoedd y cytunwyd arnynt ar ran y Cadeirydd.

•  Bod ar gael ar gyfer digwyddiadau y tu allan i oriau gwaith, gyda'r nos ac ar benwythnosau, drwy drefniant y cytunir arno ymlaen llaw.

•  Cynorthwyo gyda chyfleusterau, materion diogelwch, cynnal gweithdrefnau agor a chau adeiladau yn amserol, gwirio a monitro ystafelloedd seminar, mannau cyfarfod a chyffredin yn ôl amserlenni y cytunwyd arnynt, gan hysbysu am ddiffygion neu eu datrys, a gosod ystafelloedd yn ôl manylebau a geir ymlaen llaw.

•  Gweithredu system Diogelwch, Iechyd, yr Amgylchedd a Lles (SHEW) yr Ysgol, gan gynnwys gwerthusiadau DSE staff, gan weithredu neu ddwysáu camau lliniaru gofynnol, gweinyddu ac adolygu asesiadau risg, cysylltu ag arweinwyr gweithgaredd academaidd a gwasanaethau proffesiynol i gyflawni'r rhain, a dangos dull gweithio rhagweithiol i gefnogi agenda cynaladwyedd yr Ysgol.

•  Cefnogi gwasanaeth archebu ystafelloedd yr Ysgol, yn geisiadau ad-hoc a hefyd y cysylltiadau agos â gweithgareddau amserlennu. 

•  Gweithredu gwasanaethau post yr Ysgol, gan gynnwys rheoli cyllidebau ac ail-daliadau cysylltiedig, cysylltu â chyflenwyr technoleg a gwasanaethau allanol a darparu cyngor ac arweiniad i gwsmeriaid ar y gwasanaethau mwyaf priodol i'w hanghenion. 

•  Gweinyddu a chynnal rhwydwaith arwyddion digidol yr Ysgol, gan sicrhau bod y cynnwys yn gyfredol ac yn berthnasol ac yn cydymffurfio â deddfwriaeth briodol, gan ddarparu cyngor ac arweiniad i ddefnyddwyr gwasanaeth.

•  Gweithredu gwasanaethau reprograffeg yr Ysgol, gan gynnwys rheoli cyllidebau ac ail-daliadau cysylltiedig, cysylltu â chyflenwyr technoleg a gwasanaethau allanol a darparu cyngor ac arweiniad i gwsmeriaid ar y gwasanaethau mwyaf priodol i'w hanghenion.

Dyletswyddau Cyffredinol

•  Dylech chi allu dangos eich bod yn cyd-fynd ag egwyddorion yr ysgol, sydd wedi’u pennu yn unol â’i strategaeth dros werth cyhoeddus.

•  Datblygu’n bersonol ac yn broffesiynol mewn ffyrdd addas a fydd yn gwella eich gwaith yn y swydd. 

•  Cyfrannu at weithgareddau ehangach Gwasanaethau Proffesiynol yr Ysgol. 

•  Sicrhau eich bod yn deall pwysigrwydd cyfrinachedd wrth ymgymryd â'r holl ddyletswyddau .

•  Cadw at bolisïau’r Brifysgol ynghylch diogelu gwybodaeth (gan gynnwys rhwymedigaethau GDPR y Brifysgol), Diogelwch, Iechyd, yr Amgylchedd a Llesiant (SHEW), a Chydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant (EDI). 

•  Cyflawni o bryd i’w gilydd ddyletswyddau eraill sydd heb eu crybwyll uchod ond yn cyd-fynd â'r rôl.

Cyflog

💰 £21,197 - £23,144

Lleoliad

📍 Caerdydd

Dyddiad cau

👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!

💰 £36k 📍 Hyblyg📍 Llandwrog +1 Ar gau

💰 £26k - £31k 📍 Campws Llandaf Ar gau

💰 £21k 📍 Ceredigion Ar gau

💰 £35k - £37k 📍 Caernarfon Ar gau

💰 £30k 📍 Bangor Ar gau

💰 £33k 📍 Gwynedd Ar gau

💰 £24k - £27k 📍 Cwmbrân Ar gau

💰 £24k - £27k 📍 Aberystwyth Ar gau

💰 £31k - £37k 📍 Bangor Ar gau

💰 £54k - £64k 📍 Caerdydd📍 Hybrid Ar gau

💰 £32k - £36k 📍 Caerdydd Ar gau

💰 £21k 📍 Llanelwedd Ar gau

💰 £26k - £30k 📍 Aberystwyth Ar gau

💰 £28k - £34k 📍 Caerdydd📍 Caerfyrddin Ar gau

💰 £38k - £44k 📍 Bangor Ar gau

💰 £22k - £25k 📍 Hyblyg Ar gau

💰 £28k 📍 Y Fenni📍 Bargod +22 Ar gau

💰 £27k - £29k 📍 Caerdydd📍 Llanelwy +1 Ar gau

💰 £11.30 yr awr (£21k pro rata) 📍 Y Bala Ar gau