Jobyn - Swyddi lleol Cymru Postio swydd

👉 Llogi?

Defnyddir gan

Logo Llywodraeth Cymru Logo Ombwdsmon Cymru Logo Nant Gwrtheyrn Logo menter a busnes Logo Cadwyn Clwyd Logo Ynni Llŷn Logo Ynni Llŷn

Mae Menter a Busnes yn edrych am Gydlynydd Cymorthfeydd ac Ymgyrchoedd - dros dro

Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.

Prosiect: Cyswllt Ffermio

Adran: Gwledig

Lleoliad: Unrhyw un o swyddfeydd Menter a Busnes. Gellir gweithio o adref yn y lle cyntaf.

Rheolwr Atebol: Swyddog Clinigau, Cymorthfeydd a Gohebiaeth

Graddfa: 3

Cyflog: £21,979 - £23,748

Cytundeb: Dros Dro

Sgiliau Dwyieithog: Hanfodol

Cyswllt Ffermio

Mae Cyswllt Ffermio’n brosiect integredig ac uchel ei broffil sy’n cynnig cefnogaeth, cyngor a hyfforddiant gyda ffocws drwy raglen Cymru-gyfan o weithgareddau trosglwyddo gwybodaeth, cyngor arbenigol a chefnogaeth i arloesi. Un nod allweddol yw cynyddu’r pwyslais ar ymddygiad sy’n canolbwyntio ar fusnes, gan wella proffidioldeb, gallu cystadleuol a pherfformiad amgylcheddol busnesau fferm, coedwigaeth a bwyd yng Nghymru.

Ariennir Cyswllt Ffermio drwy’r Cynllun Datblygu Gwledig 2014-2020 sydd wedi’i ariannu gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru.

Nod y Rôl

  • Cefnogi’r Rheolwr Clinigau, Cymorthfeydd a Gohebiaeth i gydlynu a threfnu rhaglen o gymorthfeydd ac ymgyrchoedd o safon uchel ar amrywiaeth o bynciau

  • Meithrin perthynas gyda gwahanol siaradwyr ac ymgynghorwyr, yn ogystal â Swyddogion Datblygu Cyswllt Ffermio er mwyn denu unigolion a busnesau i gymryd rhan â manteisio ar ddarpariaeth gwasanaethau Cyswllt Ffermio

  • Ymdrin ag ymholiadau cyson gan ffermwyr a choedwigwyr fydd am fynychu cymorthfeydd

  • Cyfrannu at weithgareddau eraill ac amcanion cyffredinol Menter a Busnes

Prif Gyfrifoldebau

**Cymorthfeydd **

  • Cydlynu rhaglen o gymorthfeydd / ymgyrchoedd o safon uchel ar amrywiaeth o bynciau mewn cydweithrediad â’r Swyddog Cymorthfeydd a Gohebiaeth

  • Cyfrifoldeb am drefniadaeth a rheolaeth y cymorthfeydd o ddydd i ddydd gan sicrhau eu bod yn rhedeg yn esmwyth ac yn darparu gwerth i’r cwsmer

  • Sicrhau bod y manylion cywir/addas yn cael ei basio at yr ymgynhorwyr can cadw at gofynion diogelu data

  • Sicrhau cyswllt cyson gyda’r Swyddog Datblygu lleol i sicrhau llwyddiant cymorthfeydd

  • Sicrhau bod cynghorwyr perthnasol wedi eu trefnu yn ôl pwnc ar y cyd â’r Swyddog Cymorthfeydd a Gohebiaeth

  • Sicrhau wrth drefnu cymorthfeydd fod pob cymhorthfa yn cael ei chadw o fewn cyllideb fesul cymhorthfa

  • Rhoi’r manylion ar y system archeb er mwyn i’r swyddog cymorthfeydd awdurdodi gwariant

  • Sicrhau bod pob cymhorthfa a clinig yn cael eu cynnwys ar y CMS yn amserol

  • Sicrhau bod manylion y cymorthfeydd sydd ar gael yn dyddiol ar y wefan e.e rhestr pynciau wedi diweddaru, adnabod yr angen a thrafod gyda’r Swyddog Cymorthfeydd a Gohebiaeth ynglyn ag unrhyw anghenion marchnata pellach

  • Ymdrin ag ymholiadau cyn y gymhorthfa a chanfod anghenion y cwsmeriaid er mwyn sicrhau eu bod wedi eu cofrestru ar gyfer cymhorthfa sy’n ateb eu gofynion

  • Sicrhau bod y gwaith papur angenrheidiol wedi’i gwblhau ac yn cwrdd â gofynion y prosiect a gofynion Llywodraeth Cymru

  • Sicrhau bod dilyniant a gwerthusiad wedi gwneud gyda pob busnes sydd wedi cael cymhorthfa

  • Cyfathrebu efo aelodau perthnasol o’r tîm Cyswllt Ffermio efo ymholiadau ar ôl gwneud ffurflenni gwerthuso

  • Mynychu digwyddiadau Cyswllt Ffermio os bod angen – digidol neu wyneb yn wyneb

  • Sicrhau bod mynychwyr cymorthfeydd yn cael eu cofnodi’n gywir drwy gyflwyno cronfeydd data mynychwyr i’r Ganolfan Gwasanaethau’n brydlon a’u mewnbynnu i CMS

  • Sicrhau bod adroddiadau wedi derbyn gan yr ymgynhorwr a’i danfon ymlaen at y busnes o fewn amser perthnasol

  • Cyfathrebu gyda’r asiantaethau allanol perthnasol ac adeiladu perthnasau gyda phartneriaid allweddol

  • Gwirio adborth mynychwyr y cymorthfeydd a chynorthwyo’r Ganolfan Wasanaeth i fewnbynnu adborth er mwyn adrodd yn ôl i Lywodraeth Cymru

  • Dadansoddi, cydlynu a chrynhoi gwybodaeth ynglŷn â’r cymorthfeydd trwy werthuso yn erbyn targedau a darparu’r wybodaeth addas i’r Swyddog Cymorthfeydd a Gohebiaeth yn ôl yr angen

  • Cyfrannu’n gywir ac amserol i adroddiadau misol i’r Swyddog Cymorthfeydd a Gohebiaeth er mwyn monitor targedau cymorthfeydd

  • Darparu cymorth a chefnogaeth swyddfa sy’n ddibynadwy ac effeithiol

  • Cynorthwyo’r tîm marchnata a’r Ganolfan Wasanaeth yn ôl y galw gan gynnwys gweithio nes 5yh yn achlysurol os oes angen.

Arall 

  • Sicrhau bod y safonau’n cael eu cyrraedd ar gyfer gwasanaethau’r cwsmer, ansawdd, cydraddoldeb ac amrywiaeth, iechyd a diogelwch a bioddiogelwch

  • Derbyn dyletswyddau a chyfrifoldebau rhesymol eraill yn ôl y galw

  • Cynrychioli Menter a Busnes yn ôl y galw

Sgiliau a Phrofiad

Hanfodol

  • Addysg hyd o leiaf NVQ lefel 3 neu’n uwch, a/neu brofiad dangosadwy mewn maes perthnasol

  • Profiad o drefnu digwyddiadau proffil uchel ar lefel leol a chenedlaethol

  • Sgiliau trefnu a chydlynu rhagorol

  • Sgiliau rhyngbersonol a gweinyddol rhagorol

  • Gallu asesu a delio gydag ymholiadau’n gyflym a phrydlon

  • Sgiliau cyfathrebu dwyieithog (Cymraeg/Saesneg) llafar ac ysgrifenedig rhagorol

  • Sgiliau gwasanaeth y cwsmer rhagorol

  • Dealltwriaeth dda neu brofiad o’r sector amaeth a choedwigaeth yng Nghymru

  • Gallu mewnbynnu data’n gywir a chadw data’n gyfatebol gyda deddfau diogelu data perthnasol

  • Gallu ysgogi ei hun i weithio gan dderbyn y cyfrifoldeb am osod ac adolygu blaenoriaethau i gyflawni ei amcanion a’i waith ei hun, gan ystyried anghenion y cwsmer

  • Rhagweithiol a brwdfrydig am waith yr Adran Wledig

  • Gallu bod yn rhagweithiol a gyrru pethau yn eu blaen yn effeithiol

  • Gallu bwrw ymlaen gyda’ch gwaith eich hun yn ogystal â bod yn rhan o dîm

  • Sgiliau technoleg gwybodaeth gan gynnwys Word, Excel, PowerPoint, cronfeydd data, yr e-bost a’r Rhyngrwyd

  • Trwydded yrru lawn a char i’w ddefnyddio

  • Ar gael i weithio gyda’r nos pan fo angen hynny

Manteisiol

  • Gwybodaeth am raglen Cyswllt Ffermio

Cyflog

💰 £21,979 - £23,748

Lleoliad

📍 Hyblyg

Dyddiad cau

👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!

💰 £36k 📍 Hyblyg📍 Llandwrog +1 Ar gau

💰 £26k - £31k 📍 Campws Llandaf Ar gau

💰 £21k 📍 Ceredigion Ar gau

💰 £35k - £37k 📍 Caernarfon Ar gau

💰 £30k 📍 Bangor Ar gau

💰 £33k 📍 Gwynedd Ar gau

💰 £24k - £27k 📍 Cwmbrân Ar gau

💰 £24k - £27k 📍 Aberystwyth Ar gau

💰 £31k - £37k 📍 Bangor Ar gau

💰 £54k - £64k 📍 Caerdydd📍 Hybrid Ar gau

💰 £32k - £36k 📍 Caerdydd Ar gau

💰 £21k 📍 Llanelwedd Ar gau

💰 £26k - £30k 📍 Aberystwyth Ar gau

💰 £28k - £34k 📍 Caerdydd📍 Caerfyrddin Ar gau

💰 £38k - £44k 📍 Bangor Ar gau

💰 £22k - £25k 📍 Hyblyg Ar gau

💰 £28k 📍 Y Fenni📍 Bargod +22 Ar gau

💰 £27k - £29k 📍 Caerdydd📍 Llanelwy +1 Ar gau

💰 £11.30 yr awr (£21k pro rata) 📍 Y Bala Ar gau