Jobyn - Swyddi lleol Cymru Postio swydd

👉 Llogi?

Defnyddir gan

Logo Llywodraeth Cymru Logo Ombwdsmon Cymru Logo Nant Gwrtheyrn Logo menter a busnes Logo Cadwyn Clwyd Logo Ynni Llŷn Logo Ynni Llŷn

Rheolwr Datblygu Prawf Fasnachu

💰 £34,198 - £36,335 📍 Meifod📍 O gartref Ar gau

Mae Menter a Busnes yn edrych am Reolwr Datblygu Prawf Fasnachu

Ar gau. Mae’r dyddiad cau ar gyfer y swydd hon wedi mynd heibio.

Dyma gyfle gwych i weithio ar brosiect o fewn y diwydiant bwyd a diod ffyniannus yng Nghymru sy’n hanfodol i dwf yr economi yng Nghymru. O ganlyniad i gynnydd mewn galw am gefnogaeth y prosiect, mae Cywain yn chwilio am unigolyn i weithio ar draws Cymru a’r Deyrnas Unedig i gynnig cyfleoedd prawf fasnachu amrywiol a chyffrous i fusnesau.

Cefndir Prosiect Cywain   Mae Cywain, a ddarperir gan Menter a Busnes, yn fodel sy’n rhoi cymorth wedi’i dargedu i fusnesau bach a chanolig a micro yn y sector bwyd a diod yng Nghymru. Rydym wedi derbyn arian drwy Gymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020. Mae cyllid wedi’i sicrhau ar gyfer y prosiect tan fis Mehefin 2023   Mae cefnogaeth yn cael ei ddarparu i ddatblygu capasiti a gallu busnesau, hwyluso trosglwyddo gwybodaeth a dealltwriaeth o’r diwydiant, yn ogystal â chryfhau eu hintegreiddiad yn y gadwyn gyflenwi. Darperir gwasanaethau ledled Cymru gyda phwyslais ar gydweithio gyda busnesau sy’n ychwanegu gwerth a datblygu’r farchnad er mwyn tyfu a chreu swyddi. Mae Cywain wedi datblygu rhwydwaith eang o randdeiliaid ac, yn ganolog i ddatblygiad y cleient, mae gennym agwedd gydlynol tuag at weithio gyda phartneriaid darparu eraill.   Mae tri prif ffrwd i’r prosiect:

- Cefnogaeth i fusnesau newydd a micro

- Cefnogaeth Diagnostig

- Clystyru a Chydweithio rhwng busnesau i hybu twf busnes ac effeithlonrwydd   **Prif Gyfrifoldebau **   Darpariaeth Gwasanaethau 

·    Arwain ar elfen prawf fasnachu Cywain ledled Cymru a’r Deyrnas Unedig sy’n cynnwys sioeau masnach a phrynu o wahanol faint 

·    Adnabod a chydlynu presenoldeb mewn amrediad eang o ddigwyddiadau addas a fydd yn cynorthwyo busnesau i gael mynediad at farchnadoedd newydd

·    Rhoi llwyfan i fusnesau i brawf fasnachu mewn digwyddiadau masnach a chyhoeddus fel ffordd o dderbyn adborth ar gynnyrch/ brand a meithrin hyder wrth werthu cynnyrch

·    Cynllunio a gweithredu pob digwyddiad fel prif drefnydd, gan gynnwys anghenion rheoleiddio a threfniant i sicrhau diogelwch bwyd, ac arwain ar gyfathrebu cydlynol gydag aelodau perthnasol o’r tîm

·    Gweithio gyda’r tîm i ddarparu cyfres o ddigwyddiadau Cwrdd â’r Prynwr (Rhithiol, hybrid a go iawn) 

·    Trefnu a chynnal storfeydd digwyddiadau Menter a Busnes   ·    Cydweithio’n rhagweithiol gyda’r Rheolwyr Datblygu a Rheolwyr Clwstwr perthnasol i sicrhau bod digwyddiadau’n cael eu hyrwyddo a’u hanelu at y gynulleidfa darged mewn modd effeithiol ac amserol

·    Rheoli cyllideb benodol ar gyfer trefnu a mynychu digwyddiadau prawf fasnachu a darparu adborth ar ôl y digwyddiadau i’r Rheolwr Prosiect a’r tîm ehangach

·    Adolygu a datblygu y meini prawf a’r canllawiau i fusnesau sydd am brawf fasnachu, gan sicrhau eu bod yn cydymffurfio â gofynion cytundebol y prosiect ac yn bodloni gofynion archwilio perthnasol

·    Adnabod, ymchwilio a chael mynediad at ddata deallusrwydd y farchnad benodol sy'n berthnasol ac yn addas ar gyfer anghenion y buddiolwyr targed mewn modd rhagweithiol

·    Creu cysylltiadau da gydag unigolion, busnesau a chyrff eraill sy’n ymwneud ag arloesedd, datblygu cynnyrch newydd, datblygu marchnadoedd newydd a dosbarthu er mwyn hwyluso twf busnesau

·    Darparu gwasanaeth integredig trwy weithio’n agos gyda Rheolwyr Datblygu Rhanbarthol a’r Rheolwr Prosiect yn ogystal â phartneriaid prosiect, gan gydweithio a mynychu digwyddiadau ar y cyd lle’n bosib

·    Trefnu a darparu gweithdai pwrpasol ar themâu penodol i feithrin hyder a sgiliau busnesau sydd am fanteisio ar gyfleoedd prawf fasnachu     **Monitro a Gwerthuso **

·    Cadw cofnodion manwl o bob gweithgaredd a gwaith papur er mwyn sicrhau monitro a chyflawni targedau prosiect i gydymffurfio gyda systemau adrodd a monitro'r prosiect a Llywodraeth Cymru

·    Cynhyrchu adroddiad terfynol ar ddiwedd pecynnau gwaith, a fydd yn adrodd ar gryfderau a gwendidau’r gweithgaredd/cymorth a ddarparwyd

·    Monitro, adolygu a chynhyrchu adroddiadau ar dargedau, deilliannau, gwariant a pherfformiad pob digwyddiad prawf fasnachu i’r Rheolwr Prosiect yn unol â gofynion cytundeb Llywodraeth Cymru, gan gynnwys creu, cynnal a chadw systemau rheolaeth effeithiol er mwyn bodloni gofynion archwilio perthnasol 

·    Cydymffurfio gyda gofynion ariannol a gwariant y prosiect gan lynu at ganllawiau pwrcasu’r rhaglen    **Arall **

·    Cyrraedd safonau ansawdd, gwasanaeth cwsmer, cydraddoldeb ac amrywiaeth, iechyd a diogelwch a bioddiogelwch 

·    Derbyn dyletswyddau a chyfrifoldebau eraill, a chynnig mewnbwn i aseiniadau bwyd cysylltiedig a gwblheir gan Menter a Busnes yn ôl y galw 

·    Cynrychioli Menter a Busnes yn ôl y galw   Sgiliau a Phrofiad   Hanfodol 

●   Addysg hyd lefel gradd, neu gymwysterau cyfwerth, neu brofiad perthnasol ym maes datblygiad bwyd, marchnata, trefnu digwyddiadau neu bwnc perthnasol

●   Dealltwriaeth drylwyr o’r sector bwyd-amaeth yng Nghymru, gyda’r gallu i adnabod cyfleoedd i ddatblygu marchnadoedd newydd 

●   Dealltwriaeth dda a/neu brofiad dangosadwy o weithio gyda chynhyrchwyr bwyd cynradd a’r sector preifat

●   Sgiliau trefnu, rheoli a chydlynu rhagorol, gyda phrofiad dangosadwy o drefnu arddangosfeydd a digwyddiadau

●   Profiad dangosadwy o reoli cleientiaid ac ymgysylltu gyda chleientiaid / busnesau naill ai wyneb i wyneb, dros e-bost neu dros y ffôn

●   Sgiliau rhyngbersonol o safon uchel a phrofiad o ddatblygu rhwydweithiau gwych ar wahanol lefelau (e.e. cysylltiadau ffurfiol ac anffurfiol) o fuddiolwyr posibl i bobl broffesiynol mewn sefydliadau partneriaeth 

●   Gallu cymell ei hun, a derbyn cyfrifoldeb dros osod ac adolygu blaenoriaethau ar gyfer cyflawni targedau, gyda ffocws clir ar ansawdd gan roi ystyriaeth i anghenion y cwsmer

●   Gallu bod yn rhagweithiol a gyda'r brwdfrydedd i yrru pethau ymlaen yn effeithiol, boed hynny’n annibynnol neu fel rhan o dîm   ●   Ymwybyddiaeth o safonau diogelwch bwyd a gofynion rheoleiddio’r diwydiant

●   Sgiliau cyfathrebu llafar ac ysgrifenedig dwyieithog (Cymraeg/Saesneg) rhagorol

●   Sgiliau technoleg gwybodaeth o safon uchel gan gynnwys pecynnau Microsoft, cronfeydd data a’r we

●   Trwydded yrru lawn a defnydd o gar (bydd teithio ledled Cymru a thu hwnt yn rhan annatod o’r swydd)

●   Ar gael i weithio gyda’r nos a thros y penwythnos yn achlysurol   Dymunol 

●   Ymwybyddiaeth eang o ddatblygiad polisi bwyd-amaeth, yn ogystal â strategaethau a pholisïau Llywodraeth Cymru

●   Gallu gwneud penderfyniadau anodd ac amserol er budd y busnes a/neu’r gwasanaeth, gan gynnwys codi pryderon addas yn ymwneud â darpariaeth y gwasanaeth, cyllidebau ac isgontractwyr mewn modd proffesiynol a gwrthrychol   Gwneud Cais

Gallwch wneud cais am y swydd hon drwy lenwi ffurflen gais a’i dychwelyd at [email protected].   Os hoffech gael sgwrs anffurfiol am y swydd hon, cysylltwch ag Rolant Tomos ar 07964 354 660   Cyfweliadau

Cynhelir cyfweliadau ar gyfer y swydd yma ar ddydd Mercher, 27 Gorffennaf 2022. Os nad yw'r dyddiad yma yn gyfleus, plis nodwch ar y ffurflen gais.   Dyddiad Cau

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw: 10 yb, dydd Iau 21ain o Orffennaf 2022   **Polisi Cydraddoldeb ac Amrywiaeth **

Gwelwch ein gwefan i gael copi o’n Polisi Cydraddoldeb ac Amrywiaeth.

Cyflog

💰 £34,198 - £36,335

Lleoliad

📍 Meifod, O gartref

Dyddiad cau

👋🏻 Os gallwch sôn am Jobyn yn eich cais, rydyn ni wir yn ddiolchgar!

💰 £36k 📍 Hyblyg📍 Llandwrog +1 Ar gau

💰 £26k - £31k 📍 Campws Llandaf Ar gau

💰 £21k 📍 Ceredigion Ar gau

💰 £35k - £37k 📍 Caernarfon Ar gau

💰 £30k 📍 Bangor Ar gau

💰 £33k 📍 Gwynedd Ar gau

💰 £24k - £27k 📍 Cwmbrân Ar gau

💰 £24k - £27k 📍 Aberystwyth Ar gau

💰 £31k - £37k 📍 Bangor Ar gau

💰 £54k - £64k 📍 Caerdydd📍 Hybrid Ar gau

💰 £32k - £36k 📍 Caerdydd Ar gau

💰 £21k 📍 Llanelwedd Ar gau

💰 £26k - £30k 📍 Aberystwyth Ar gau

💰 £28k - £34k 📍 Caerdydd📍 Caerfyrddin Ar gau

💰 £38k - £44k 📍 Bangor Ar gau

💰 £22k - £25k 📍 Hyblyg Ar gau

💰 £28k 📍 Y Fenni📍 Bargod +22 Ar gau

💰 £27k - £29k 📍 Caerdydd📍 Llanelwy +1 Ar gau

💰 £11.30 yr awr (£21k pro rata) 📍 Y Bala Ar gau